Yr wythnos hon, Dydd Iau 26 - Dydd Sul 29 Ionawr, bydd beicwyr trac gorau Prydain yn cystadlu am grysau coch, gwyn a glas nodedig y pencampwyr cenedlaethol wrth i'r Pencampwriaethau Trac Cenedlaethol ddychwelyd i Felodrôm Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas, am yr ail flwyddyn yn olynol.
Bydd y digwyddiad yn gweld enillwyr medalau Olympaidd, Paralympaidd a’r Gymanwlad yn mynd benben yn erbyn sêr yfory ac wrth i ni baratoi ar gyfer penwythnos llawn rasio, dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod.
Pwy sy'n rasio?
Bydd carfan gref o Gymru yn cael ei harwain gan enillwyr medalau pencampwriaethau'r byd 2022, Jess Roberts ac Anna Morris, a fydd ill dwy yn cystadlu yn y ras ymlid unigol a’r ras grafu, tra bydd Roberts hefyd yn llygadu crysau nodedig y pencampwr cenedlaethol yn y ras bwyntiau a'r ras ymlid tîm.
Ar ôl ennill medal efydd anhygoel yng Ngemau'r Gymanwlad, bydd Will Roberts yn gobeithio ychwanegu teitl cenedlaethol at ei gasgliad yng Nghasnewydd, tra bydd y cyn-bencampwr ras bwyntiau cenedlaethol ac enillydd medal ym Mhencampwriaethau'r Byd, Rhys Britton, hefyd yn gallu dibynnu ar gefnogaeth gref gan y dorf gartref.
Bydd enillwyr medalau Olympaidd a Pharalympaidd, gan gynnwys Neah Evans, Jody Cundy, Sophie Unwin, Jenny Holl, Jack Carlin a Katy Nicholls, a fydd yn dychwelyd i'r gamp ar ôl geni ei mab Arthur yr haf diwethaf, hefyd yn cystadlu yn y digwyddiad eleni.
Hefyd, cadwch olwg am enillwyr medalau Gemau’r Gymanwlad Sophie Capewell, Emma Finucane, Charlie Tanfield, Hamish Turnbull ac Eluned King. Mae rhestr lawn y beicwyr i’w gweld yma.
Ble alla i gael tocynnau?
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad ar werth yma, gyda thocynnau seddi yn amrywio o £10 i £15 y sesiwn. Mae tocynnau sefyll hefyd ar gael am £5 - £10, ac mae prisiau gostyngol ar gael i'r rhai dan 16 oed neu dros 65 oed.
O fewn y lleoliad bydd gennym ystod o opsiynau arlwyo ar gael i wylwyr, felly dewch â'r teulu am ddiwrnod gwych o rasio a chyfle i wylio rhai o enwau mwyaf gwledydd Prydain yn mynd drwy eu pethau! Gellir prynu tocynnau yn y lleoliad hefyd.
Allai i wylio gartref?
Gallwch! Mae'n bleser gennym allu dod â darllediadau byw o'r digwyddiad trwy sianel YouTube British Cycling.
Beth yw’r amserlen?
Eisiau gwneud yn siŵr nad ydych chi'n colli eich hoff ddigwyddiad? Dyma amserlen y penwythnos:
Dydd Iau: Sesiwn gymhwyso gaeëedig.
Dydd Gwener sesiwn 1 – dechrau am 10:00: Gwibio i fenywod, rownd derfynol gwibio para-feicio, ymlid unigol dynion, gwibio tîm dynion, ymlid unigol menywod.
Dydd Gwener sesiwn 2 – dechrau am 19:00: Rownd derfynol ymlid unigol merched, rownd derfynol ymlid unigol dynion, rownd derfynol gwibio tîm dynion, rownd derfynol gwibio menywod.
Dydd Sadwrn sesiwn 1 – dechrau am 9:00: Gwibio i ddynion, ras grafu’r menywod, ras bwyntiau’r dynion, rownd derfynol ymlid timau menywod, rownd derfynol ymlid para-feicio, rownd derfynol cilo’r dynion.
Dydd Sadwrn sesiwn 2 – dechrau am 19:00: Rownd derfynol gwibio’r dynion, rownd derfynol keirin menywod, rownd derfynol ras grafu’r menywod, rownd derfynol ras bwyntiau’r dynion.
Dydd Sul sesiwn 1 – dechrau am 8:30: Ras ymlid timau i ddynion, gwibio tîm i fenywod, ras bwyntiau’r menywod, ras grafu’r dynion, rownd derfynol para-feicio yn erbyn y cloc.
Dydd Sul sesiwn 2 – dechrau am 13:30: Rownd derfynol gwibio tîm i fenywod, rownd derfynol keirin y dynion, rownd derfynol ras grafu para-feicio, rownd derfynol ymlid timau dynion, rownd derfynol ras bwyntiau’r menywod, rownd derfynol ras grafu’r dynion.
Mae amserlen lawn pob dydd i'w gweld yma.
Y lleoliad
Wedi’i ailenwi yn 2018 yn dilyn buddugoliaeth Geraint Thomas yn y Tour de France, dyma'r eildro i'r lleoliad gynnal pencampwriaethau cenedlaethol hŷn wedi pencampwriaeth lwyddiannus fis Mawrth y llynedd. Mae'r trac 250m a'i lethr 42 gradd yn adnabyddus i lawer o Olympiaid a Pharalympiaid Prydain, ar ôl cael ei ddefnyddio fel gwersyll gan Dîm Prydain Fawr a Paralympics GB.
Rydym yn disgwyl croeso brwd gan y cefnogwyr yn yr eiseddle, gyda charfan gref o feicwyr lleol yn cystadlu ar eu trac cartref!
Dwedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw: "Mae'n bleser gennym gynnal y digwyddiad hwn unwaith eto yn Felodrôm Geraint Thomas. Gyda rhestr drawiadol o feicwyr yn cystadlu, gan gynnwys carfan gref o Gymru, mae'n mynd i fod yn benwythnos gwych o rasio i'r beicwyr a'r cefnogwyr, yr ydym yn edrych ymlaen at eu croesawu."
Cymerwch ran!
P’un a ydych yn yr eisteddle yng Nghasnewydd neu'n cefnogi’r beicwyr gartref, mae British Cycling eisiau clywed gennych chi! Rhannwch eich proffwydoliaethau, eich lluniau a’ch uchafbwyntiau gan ddefnyddio'r hashnod #TrackChamps. Gallwch ddod o hyd i ni ar Facebook yn /britishcycling ac ar Twitter ac Instagram @BritishCycling.