
Mae Future Creatives yn brosiect ieuenctid newydd a ddaw i chi gan Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yng Nghasnewydd.
Bydd y prosiect yn cynnwys sesiynau wythnosol fydd yn rhoi'r cyfle i bobl ifanc ddysgu popeth y maen nhw angen ei wybod am y diwydiant. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar theatr, ffilmiau, creu podlediadau gwneud printiau. Bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i gydweithio i wneud... beth bynnag maen nhw eisiau!
Gan groesawu pob oedolyn ifanc rhwng 17 a 24 oed i gyfarfod yn wythnosol trwy gydol mis Mawrth ac Ebrill 2023, bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i archwilio syniadau newydd mewn ffyrdd cyffrous, gan greu gwaith celf sy'n ymateb i'r byd presennol.
Mae'n mynd i fod yn gymdeithasol, gwleidyddol, arbrofol, personol, cydweithredol ac yn llawer o hwyl.
Bydd y sesiynau hyn yn gyfle anhygoel i archwilio'ch opsiynau o fewn y diwydiannau creadigol, yn ogystal â threulio peth amser rhydd yn cwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd.
Cynhelir y sesiwn gyntaf ddydd Mawrth 7 Mawrth 2023 am 6.30pm yn Glan yr Afon. Mae'r sesiwn 'Codi Llais am Beth chi Eisiau' yn gyfarfod rhagflas, yn rhoi cyfle i unrhyw un sydd â diddordeb, fynychu gweithdy lle byddwch yn dysgu mwy am y prosiect a gofynnir i chi beth fyddech chi'n hoffi ei wneud fwyaf.
Bydd y sesiynau canlynol yn parhau bob dydd Mawrth am 6.30pm tan 18 Ebrill.
Felly, os ydych chi'n berson ifanc sydd â diddordeb mewn rhyddhau eich creadigrwydd, gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru nawr! Mae pob un o'r sesiynau am ddim ond mae cofrestru yn hanfodol.
I gofrestru cysylltwch â justinteddycliffe@hotmail.com.