Mae Casnewydd Fyw bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella ein gwasanaethau a gwneud eich profiad gyda ni hyd yn oed yn well.  Dyna pam rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi uwchraddiad mawr i'n system ffonau.  Bydd y system yn dechrau ar 5 Medi ac yn gwella'r ffordd rydyn ni’n cysylltu â chi. Mae'r newid hwn yn rhan o'n strategaeth ddigidol a'n hymrwymiad parhaus i wella'ch profiad gyda ni a darparu'r lefelau uchaf o wasanaeth i gwsmeriaid.

Beth sy’n newid?

Mae ein system ffonau newydd yn dod â llu o nodweddion blaengar sydd wedi'u cynllunio i wneud eich rhyngweithio â ni yn fwy esmwyth ac yn fwy effeithlon. Dyma flas ar yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:

Cais Cyfleus i Ffonio Nôl:  Os ydych wedi ein ffonio ac mewn ciw ac y byddai'n well gennych beidio ag aros, gallwch ofyn am alwad yn ôl tra'n cadw eich lle yn y ciw. Byddwn yn eich ffonio'n ôl cyn gynted ag y bydd aelod o'r tîm ar gael.

Trawsgrifiadau Llais Amser Real: Bydd hyn yn rhoi cofnod cywir ac uniongyrchol o'ch sgwrs, gan ein helpu i fynd i'r afael â'ch anghenion yn fwy effeithiol.                                     

Recordio Galwadau:  Sylwer y caiff pob galwad aton ni ei recordio bellach at ddibenion ansawdd a hyfforddiant. Mae hyn yn ein helpu i wella ein swyddogaethau gwasanaethu a hyfforddi a sicrhau ein bod yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cwsmeriaid yn gyson.

Beth yw goblygiadau hyn i chi?

Gyda thechnoleg a nodweddion Deallusrwydd Artiffisial digidol blaengar a fydd yn gwella ein galluoedd cyfathrebu yn sylweddol,  gallwch ddisgwyl profiad cyfathrebu llyfnach, mwy dibynadwy gyda gwasanaeth hyd yn oed yn well ac amseroedd ymateb cyflymach a fydd yn cynnwys gwasanaethau ffôn sgwrsio gwe newydd.

Pryd mae'n Newid?

Bydd y newid i'r system ffonau newydd yn digwydd ar ddydd Iau 5 Medi a'n nod yw gwneud hyn mewn ffordd mor ddi-dor â phosibl i chi.  Ar ddiwrnod hwnnw y newid gallai fod toriad ar ein gwasanaeth ffonau am gyfnod byr. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i osgoi hyn ac wedyn byddwch yn gallu mwynhau ein hopsiynau ffon newydd, gan ei gwneud hi'n haws i chi gysylltu â’r adran gywir cyn gynted â phosibl.

Bydd y newid i wasanaeth Sgwrs Gwe newydd yn digwydd ddechrau mis Hydref a chewch fynediad at y gwasanaeth deinamig newydd hwn drwy ein gwefan.

Eich Profiad Chi yw ein Blaenoriaeth

Yn Casnewydd Fyw, eich profiad chi yw ein prif flaenoriaeth.  Mae'r uwchraddiad ffonau yn un o'r nifer o gamau yr ydym yn eu rhoi ar waith i sicrhau eich bod yn derbyn y lefel orau o wasanaeth i gwsmeriaid.  Rydym yn gyffrous am y gwelliannau ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at eich gweld chi’n cael defnyddio’r nodweddion cyfathrebu gwell.