Big Splash The Riverfront

Fel bob amser roedd Glan yr Afon yn llawn digwyddiadau dros yr haf yn croesawu'r gymuned i ymuno mewn gweithgareddau, digwyddiadau a pherfformiadau hwyliog. Darllenwch i ddysgu mwy.

Gorffennaf

Dechreuodd y rhaglen brysur o berfformiadau ar ein prif lwyfan ym mis Gorffennaf.  Gan ddechrau gyda Brenin a Brenhines Canu Gwlad, Islands in the Stream,  yn dathlu’r eiconau Dolly Parton a'r diweddar Kenny Rogers. Dilynwyd y perfformiad hwn gan fwy o gerddoriaeth deyrnged broffesiynol anhygoel gyda'r Bowie Experience a Total 90s.

Gan gynnig digonedd i'r teulu bob amser, daeth Chores i'r llwyfan gan ddefnyddio comedi ac acrobateg anniben i adrodd hanes dau fachgen ifanc a oedd angen glanhau eu hystafell a gwneud eu tasgau. Roedd Monkey yn ôl gyda sioe Milkshake! Live newydd, gan ddod â ffrindiau a chyflwynwyr Milkshake gydag e; ac roedd mwy o After-mirth ar y llwyfan gyda chomedi ar gyfer rhieni a babanod.

Gorffennaf hefyd oedd mis perfformiad cyntaf erioed Cultivate. Cultivare yw ‘rhagberfformiad’ newydd Glan yr Afon sy'n caniatáu i gynulleidfaoedd gwrdd ag artistiaid lleol wrth iddynt rannu perfformiadau byrion o waith sydd ar y gweill. Mae'r platfform hwn yn gyfle anhygoel i Glan yr Afon gefnogi artistiaid lleol i ddatblygu eu perfformiadau a’u gyrfa.

Digwyddiad arwyddocaol a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf oedd croesawu Hope, y cerflun swffragét maint go iawn a wnaed o 80,000 o friciau Lego. Croesawyd Hope gyda digwyddiad dadorchuddio a chodi arian swyddogol. Y digwyddiad hwn yw'r cyntaf o gyfres o ddigwyddiadau sydd i gyd â’r nod o godi arian ar gyfer cerflun o’r swffragét arwrol o Gasnewydd – Arglwyddes Rhondda.

Cynigiodd Llwybr Arfordir (Dyfodol) Cymru raglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau a oedd ar agor i'r cyhoedd yn ystod mis Gorffennaf. Rodd y rhain yn gyfres o ddigwyddiadau a gosodiadau dros gyfnod o flwyddyn sy'n ymchwilio i'n perthynas â thir a dŵr a sut y gallem ymateb i lefelau'r môr yn codi ar hyd arfordir Cymru. Yng nghwmni’r artistiaid Alison Neighbour a Vikram Iyengar a'r gwyddonydd cymdeithasol morol Dr Emma McKinley, cynhaliwyd trafodaeth anffurfiol am y goleudy ar 26 Gorffennaf.

Sblash Mawr

Y Sblash Mawr yw'r ŵyl gelfyddydol awyr agored fwyaf yng Nghymru ac mae'n un o'r digwyddiadau mwyaf yng nghalendr Glan yr Afon ac eleni roedd hi'n fwy nag erioed!

Roedd disgwyliadau enfawr cyn y digwyddiad gydag unrhyw un a phob un yn cymryd rhan. Bu ein tîm datblygu cymunedol a'r celfyddydau'n gweithio’n agos gyda Jessica Ackerman gan fynd i Ysgol Gynradd Jubilee Park ac Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon i greu baneri gŵyl addurniadol a ddefnyddiwyd i addurno'r theatr yn ystod yr ŵyl. Cynhaliwyd cystadleuaeth bosteri hefyd a'i chysylltu â chelf ar thema’r sblash mawr ar y waliau; dyfarnwyd tocynnau sinema a deunyddiau crefft i'r enillwyr.

Aeth amrywiaeth enfawr o berfformwyr allan ar i strydoedd Casnewydd i ddiddanu'r miloedd o bobl a ddaeth i'r ddinas. Roedd y Theatr yn falch o groesawu artistiaid Cymreig yn cynnwys Kitsch a Sync, Theatr Iolo, Hijninx, Taking Flight, Flossy and Boo, yn ogystal â llawer mwy!

Roedd y rhestr o berfformwyr anhygoel yn ddiddiwedd. Ymgasglodd y tyrfaoedd yn Friars Walk  wrth i Dandyism ddefnyddio dawns i archwilio dandïaeth  Affricanaidd fel dathliad o steil a bod yn cŵl yn ogystal â phryder am ddynoliaeth, rhywedd a hunaniaeth. Stopiodd pawb am hunluniau gyda'r cangarŵs Roo’d enfawr a fownsiodd o amgylch y strydoedd ar stiltiau ac fe chwarddodd cynulleidfaoedd lond eu boliau mewn sawl perfformiad ar lwyfan y syrcas wedi'i leoli o flaen Glan yr Afon.

Bu Glan yr Afon hefyd yn cynnal ardal 'Splashtobury' yn yr ŵyl lle cynhaliwyd gweithgareddau teuluol.  Roedd adnoddau creu crefftau ar gael drwyddi draw er mwyn i bobl greu a chymryd fel y mynnon nhw. Dyma hefyd oedd lleoliad y Bws Casnewydd cyntaf erioed i fynd i’r Sblash Mawr. Yn hael iawn, parciodd Trafnidiaeth Casnewydd un o'u bysus y tu allan, lle roedd pobl yn gallu ysgrifennu, lliwio a thynnu lluniau drosto i gyd! Yn ôl y disgwyl, bu hyn yn boblogaidd iawn gyda'r mynychwyr! Gwnaethom hefyd gyflwyno'r Llwyfan Cymunedol i'r ŵyl eleni a oedd yn dathlu perfformwyr lleol o bob rhan o'r ddinas.

Mae'n deg dweud, roedd y Sblash Mawr yn llwyddiant ysgubol. Mae'n ddigwyddiad ffantastig lle mae torfeydd yn dod yn eu rhengoedd i fod yn rhan o'r hwyl a'r cyffro gyda theulu a ffrindiau. Mae'n gyfle i wylio a chymryd rhan mewn celf, cerddoriaeth a gweithgareddau ysblennydd ledled y ddinas.  Mae'n ddigwyddiad sy'n denu miloedd ac sy'n dod â gwên i wynebau pobl.  Mae'r tîm eisoes yn cyfri'r dyddiau ar gyfer y flwyddyn nesaf!  

Big Splash 2022

Awst

Canolbwyntiwyd gydol yr haf ar weithgareddau hwyliog i bawb.  Yn rhaglen Haf o Hwyl roedd dros 100 o weithdai/perfformiadau/ymyriadau creadigol a phethau crefftus i’w gwneud, yn Glan yr Afon ac ar draws y ddinas gan gynnwys ‘breakdance’, graffiti, dawns, cerddoriaeth, drama a gweithdai sy'n canolbwyntio ar les. Roedd Glan yr Afon yn yn falch iawn o weithio gyda llawer o wahanol artistiaid a sefydliadau creadigol.

Yn dychwelyd ar gyfer yr haf oedd Clwbiau Gwnïo Oh Susannah, lle gallai plant ddysgu sgiliau peiriant gwnïo newydd i greu amrywiaeth o gynhyrchion cynaliadwy o gadachau wynebau y gellir eu hail-ddefnyddio i ategolion ffôn wedi'u huwchgylchu.

Drwy gydol misoedd yr haf bu Glan yr Afon yn sgrinio llawer o ffilmiau i blant am ddim ond £2.50.  O Minions:  The Rise Of Gru (U) a The Railway Children Return (PG) i DC League of Super Pets (PG) a Moana Sing Along (PG), dangoswyd y ffefrynnau i gyd! 

Ymhlith y llu o weithgareddau gwyliau oedd Clwb Sinema ar gyfer yr holl ffans ffilm. Bob dydd Mercher gallai plant wylio ffilm yn y bore a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cysylltiedig yn y prynhawn.

Roedd y gweithgareddau'n boblogaidd iawn gyda phlant a rhieni, mynnwch gip ar amserlen hanner tymor yr Hydref!

Nazia Workshop

Medi

Wrth i blant ddychwelyd i'r ysgol a wrth i'r anhrefn cyffrous ddechrau tawelu, trodd sylw'r holl staff at dymor newydd yr Hydref/Gaeaf sydd bellach ar ei anterth

Gyda pherfformiadau hynod lwyddiannus gan gynnwys Some Guys Have All The Luck: Rod Stewart and The Story of Soul, mae'r adeilad wedi bod yn bair o brysurdeb Croesawodd Glan yr Afon hefyd An Evening of Burlesque i'r Llwyfan ar 24 Medi, roedd hi'n noson o chwerthin, cabare, dirgelwch, a chyfaredd! Roedd y sioe gabare steilus hon yn  hollol newydd i Glan yr Afon ond roedd hi'n boblogaidd iawn ac fe ddaeth cynulleidfa Casnewydd yn llu i’w gweld.

Dychwelodd Cultivate i'r stiwdio gyda thri artist newydd a arddangosodd eu gwaith. Roedd y gynulleidfa'n llawn myfyrwyr o Brifysgol De Cymru a chymerodd pob un ohonynt nodiadau wrth baratoi am eu perfformiadau ym mis Rhagfyr na allwn aros i’w gweld!

Gan fod y tymor ysgol yn ei ôl, felly hefyd y gweithdai wythnosol poblogaidd. Daeth Hubble Music and Movement, Hatch Youth Theatre, Cerameg i Oedolion, Dosbarthiadau Daws Rubicon, Breakdancing a Capoeira yn ôl ar gyfer y tymor. Ynghyd â'r clasuron, mae Glan yr Afon hefyd wedi cyflwyno'r Well-being Choir i oedolion. Mae'n gyfle perffaith i gwrdd â phobl newydd, mwynhau cydganu a rhoi cynnig ar rywbeth newydd.  Mae'r sesiynau hyn am ddim ac mae croeso i bobl alw heibio.

Bu staff Glan yr Afon yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Gwent i drefnu diwrnod o weithgareddau creu a chymryd fel croeso i deuluoedd Wcrainaidd sydd wedi symud i'r ddinas yn ddiweddar. Roedd yn gyfle i Lan yr Afon agor yr adeilad i aelodau newydd o'r gymuned a chynnig lle iddynt ymlacio a mwynhau amser o safon gyda'u teulu.

Roedd Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn falch iawn o gyhoeddi ailagor eu Horiel Gelf gydag Arddangosfa Gypsy Maker 5. Y gosodiad cyffrous hwn o waith a gomisiynwyd yn arbennig yw'r diweddaraf yn eu prosiect arloesol Gypsy Maker, menter sy'n cefnogi datblygiad gwaith artistig arloesol gan artistiaid sy’n Sipsiwn, yn Roma ac yn Deithwyr. Mae'r prosiect bellach wedi gadael yr oriel i barhau â'r daith o amgylch y Deyrnas Gyfunol. 

Bu’r Oriel Mesanîn hefyd yn rhoi llwyfan i arddangosfa Pride. Bu’r arddangosfa hon yn gweithio ar y cyd â Pride in the Port gyda’r teitl 'Which LGBTQAI+ Welsh Icon Inspires YOU The Most?'. Ar ôl arddangosfa Pride daeth yr oriel Mesanîn yn gartref i’r Wales and the Battle of Britain Anniversary Exhibition, am wythnos. Roedd yr arddangosfa hon yn rhan o ddigwyddiadau coffáu ledled y deyrnas sy'n nodi pennod bwysig yn hanes yr Ail Ryfel Byd.

Agorodd Glan yr Afon ei ddrysau ar 17 Medi ar gyfer y Creative Space Craft Clear Out, cyfle perffaith i lanhau’r gwe pry cop cyn Calan gaeaf.   I unrhyw un oedd â stiwdio o ddeunyddiau nad oedd yn cael eu defnyddio mwyach, cyflenwadau dros ben neu fframiau ag angen cartref da; roedd croeso i bawb yn fersiwn Glan yr Afon o sêl cist car gan artistiaid.

I orffen y mis, ar 24 Medi daeth Deinosor i'r dref i grwydro strydoedd Casnewydd a rhoi cip slei o'r hyn sydd i ddod ym mis Hydref gyda Dinosaur World Live. Roedd hi'n hyfryd gweld cymaint o bobl yn dod i wynebu rhuo’r bwystfil mawr, cyfeillgar. Roedd llawer o anturiaethwyr hyd yn oed wedi gwisgo ar gyfer yr achlysur a daethant yn barod i gael tynnu eu llun yn eu topiau deinosor a'u hwdis.

Mae'n deg dweud bod Glan yr Afon wedi cael haf anhygoel o brysur!  Cadwch lygad am beth sydd ar ddod dros fisoedd yr Hydref a'r Gaeaf, ac os nad ydych chi wedi gwneud hynny'n barod, archebwch eich tocynnau ar gyfer y Panto!