Mae Gŵyl Sblash Mawr Theatr a Chanolfan Celfyddydau Glan yr Afon, sef gŵyl gelfyddydau awyr agored fwyaf Cymru, yn dychwelyd Ddydd Sadwrn 19 a Dydd Sul 20 Gorffennaf 2025. Mae’r dathliad deinamig o greadigrwydd a diwylliant yn trawsnewid strydoedd Casnewydd yn llwyfan awyr agored bywiog, sy'n cynnwys cerddoriaeth fyw, theatr stryd, perfformiadau dawns, gweithdai, crefftau, a gweithgareddau sy'n addas i'r teulu - i gyd am ddim.
Fel rhan o'r ŵyl eleni, mae Theatr Glan yr Afon yn cynnig cyfle unigryw i gefnogi datblygu darn theatr stryd awyr agored Cymraeg newydd sbon. Gyda £3,000 o gyllid ar gael, bydd artist neu gwmni yn cael comisiwn i greu profiad theatr awyr agored diddorol, sy'n addas i deuluoedd, a gaiff ei weld am y tro cyntaf yn Sblash Mawr 2025.
Dylai'r darn a ddewisir ddathlu'r Gymraeg, fod rhwng 15-20 munud o hyd a bod yn addas i bob oedran. Gall fod yn berfformiad statig neu grwydrol. Rhaid i'r artist neu'r cwmni llwyddiannus fod ar gael i berfformio hyd at dair gwaith ar ddau ddiwrnod yr ŵyl (19 a 20 Gorffennaf). Yn ogystal â'r gefnogaeth ariannol, bydd Glan yr Afon yn darparu gofod ymarfer am ddim i gynorthwyo gyda datblygu'r darn.

Big Splash
Pwy all wneud cais a sut?
Mae'r cyfle yn agored i unrhyw un sy’n 18 oed neu’n hŷn, yn siarad Cymraeg neu'n awyddus i fagu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith, ac yn artist neu'n weithiwr llawrydd yn y sector creadigol, gyda phrofiad neu uchelgais i weithio yn sector y celfyddydau awyr agored. Dylai ymgeiswyr â diddordeb gyflwyno disgrifiad byr ohonynt eu hunain a/neu eu cwmni, eu syniad creadigol a pham eu bod nhw'n credu y byddai eu gwaith yn llwyddiannus mewn amgylchedd gŵyl gelfyddydol awyr agored. Y dyddiad cau i wneud cais yw Dydd Sul 30 Mawrth 2025. Anfonwch eich cais drwy e-bost i artsdevelopment@newportlive.co.uk.
Mae Sblash Mawr 2025 yn addo bod yn benwythnos o berfformiadau ac ysbryd cymunedol bythgofiadwy. Mae hwn yn gyfle gwych i artistiaid sy'n siarad Cymraeg arddangos eu talent, dathlu'r Gymraeg, a dod â phrofiad newydd cyffrous i gynulleidfaoedd yng Nghasnewydd.