Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn falch iawn o gyhoeddi bod ffefryn y panto, yr annwyl Gareth Tempest, yn dychwelyd ar gyfer cynhyrchiad Nadoligaidd eleni o Rapunzel, gan nodi 20 mlynedd hudolus o bantomeim yn ganolog i ddathliadau Nadolig Casnewydd.

Gan redeg o 27 Tachwedd 2025 tan 4 Ionawr 2026, mae Rapunzel yn addo bod yn antur wefreiddiol sy'n llawn drygioni, hud ac anhrefn! Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl y profiad panto llawn - o wisgoedd syfrdanol a setiau disglair i ganeuon bywiog a digon o chwerthin.

Mae'r flwyddyn garreg filltir hon yn fwy arbennig byth wrth i Gareth Tempest gamu'n ôl i'w sodlau poblogaidd yn rôl y Fonesig. Ar ôl perfformio am y tro cyntaf yn Glan yr Afon yn Dick Whittington yn 2005 yn rhan o'r Cwmni Ifanc, mae dychweliad Gareth i rôl y Fonesig yn creu cylch llawn.

Rhannodd Gareth: "I mi, mae panto mor bwysig, nid yn unig oherwydd i lawer dyma’u profiad cyntaf o theatr, ond oherwydd ei fod yn un o'r ffurfiau prin o theatr sy'n mynd ati i ymgysylltu â’r gynulleidfa ac yn rhoi ymdeimlad o berchnogaeth a chyfrifoldeb iddyn nhw dros y stori. Ar adeg pan fo pobl ifanc wedi arfer â chysylltiad ac ymgysylltu ar unwaith, mae'n wych gallu cynnig yr un teimlad o gysylltiad yn y straeon rydyn ni'n eu hadrodd.

Rwyf wedi cael y pleser o weithio yn Glan yr Afon am sawl tymor Nadolig, felly mae'n rhoi gymaint o lawenydd i mi fod yn rhan o gwmni a thîm sydd â'r unig ffocws i greu'r sioe fwyaf hudolus a difyr i'w cynulleidfaoedd â phosibl. Ar ben hynny, mae pawb yng Nghasnewydd yn gwybod, does dim byd yn dweud Nadolig fel panto Glan yr Afon."

Gareth Tempest Announcement.png

Mae cynhyrchiad eleni o Rapunzel yn gwahodd cynulleidfaoedd i fyd hudolus. Pan fydd Rapunzel yn darganfod gwirionedd ei gorffennol, mae hi'n sylweddoli nad yw ei dyfodol wedi’i ysgrifennu felly mae’n rasio i dorri swyn ac ennill ei rhyddid.

Ychwanegai Rheolwr Datblygu Creadigol, Jamie Anderson: "Mae cyrraedd ein 20fed pantomeim yn achlysur pwysig iawn. Mae panto wedi bod wrth wraidd yr hyn rydyn ni'n ei wneud erioed - mae'n fwy na sioe, mae'n draddodiad, yn ddigwyddiad cymunedol, ac i lawer o bobl ifanc, dyma eu hegin gyntaf o hud theatrig. Rwy'n credu'n fawr ei fod yn un o'r rhannau mwyaf ffurfiannol a phwysig o'n diwylliant theatrig. Mae cael Gareth (a mwy) yn dychwelyd eleni, rhywun a ddechreuodd ei daith ar ein llwyfan, yn teimlo'n hynod addas ac yn nodi tymor gwirioneddol arbennig. Rydyn ni wedi dod i garu Bonesig anarchaidd a direidus Gareth"

Mae disgwyl i Rapunzel gyflwyno popeth y mae cynulleidfaoedd wedi dod i'w garu am bantomeimiau Glan yr Afon - perfformiadau egnïol, comedi doniol, hwyl teuluol, ac atgofion bythgofiadwy.

Ymunwch â ni ar gyfer tymor y Nadolig a gadewch eich gwallt i lawr (yn llythrennol) wrth i ni ddathlu dau ddegawd o hud panto yn Theatr Glan yr Afon!

Bydd mwy o gyhoeddiadau cast yn dod yn fuan, mae pantomeim 2025/2026 Glan yr Afon yn un i beidio â’i golli. Archebwch eich tocynnau heddiw: newportlive.co.uk/rapunzel