CYFLE SWYDD
MAE ANGEN CYFARWYDDWR A DYLUNYDD ADDAWOL AR GYFER 'THAT'S MY WIN!' GAN MACKENZIE STEED'S
Mae That’s My Win! yn sioe theatr newydd sy'n cael ei datblygu ar hyn o bryd gan yr Artist o Gasnewydd, Mackenzie Steed. Wedi rhannu pwt o'r gwaith fel rhan o brosiect CULTIVATE Glan yr Afon, mae Mackenzie bellach yn gweithio gyda chefnogaeth cyllid Cyngor Celfyddydau Cymru i ymchwilio a datblygu fersiwn lawn o'r sioe.
Ar ôl cynnull tîm creadigol bach eisoes ar gyfer y prosiect mae Mackenzie yn gobeithio dod o hyd i Gyfarwyddwr a Dylunydd a fydd yn gallu ymuno â'r tîm a'i helpu hi i wireddu ei gweledigaeth.
Isod ceir disgrifiad ar gyfer y ddwy rôl.
Yn gweithio gyda Mackenzie ar y prosiect hwn mae'r Cynhyrchydd Creadigol, Justin Teddy Cliffe. Ef fydd y cyswllt arweiniol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymgeisio am y naill neu'r llall o'r rolau hyn a gellir ei gyrraedd drwy justinteddycliffe@hotmail.com os oes gennych unrhyw gwestiynau ychwanegol.
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yng Nglan yr Afon, ond gallent hefyd gael eu cynnal o bell drwy alwad fideo.
Ar gyfer Cyfarwyddwyr: Bydd y cyfweliadau yn sgyrsiol ond hefyd yn weddol ymarferol, gyda chyfle i weithio gyda Mackenzie yn ein stiwdio.
Ar gyfer Dylunwyr Addawol: Bydd y cyfweliadau yn gyfle gwych i rannu enghreifftiau o'ch meddwl/lluniadau/syniadau, gofyn cwestiynau ac i weld a yw’r broses hon yn iawn i chi a'ch uchelgais i’r dyfodol, yn ogystal ag i ninnau ddod o hyd i'r person gorau ar gyfer y swydd.
Dyddiad cau: 17 Mawrth 12pm
Diwrnodau Cyfweliad: 20 a 21 Mawrth (gallwn gynnig dyddiadau eraill ar gais)
I wneud cais: Mackenzie Steed's That's My Win! (google.com)
----
CYFARWYDDWR
Rydym yn chwilio am gyfarwyddwr sy’n uniaethu fel benyw profiadol i weithio ar ymchwil a datblygu ar gyfer sioe un fenyw newydd am ddiwylliant deiet ac edrych ar ôl dy hun ac eraill. Gyda chefnogaeth Glan yr Afon a'i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae'r gwaith yn ddarn cyffrous lled-hunangofiannol sydd wedi'i ysgrifennu a'i berfformio gan Mackenzie Steed.
Rhinweddau rydyn ni'n chwilio amdanyn nhw mewn Cyfarwyddwr:
- Agwedd gydweithredol
- Yn deall comedi
- Wedi gweithio ar brosiectau tebyg
- Profiad o ddyfeisio / ysgrifennu ar gyfer perfformio
- Cyfforddus yn rhedeg y lle i un perfformiwr
- Gwybod sut i gydweithio gydag Artist ar ei syniadau
Gofynion:
- O ystyried cynnwys a natur y gwaith hwn byddwn yn ffafrio unigolion sy’n uniaethu fel benywod.
- O leiaf 5 mlynedd o brofiad o weithio mewn lleoliadau proffesiynol
- Ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o ddyddiadau'r prosiect a nodir isod.
Proses:
Bydd gofyn i’r Cyfarwyddwr weithio am bythefnos a deuddydd, gan weithio tuag at ddigwyddiad rhannu ar Ddydd Mawrth 25 Ebrill. Cyd-ddylunio'r broses gyda'r Perfformiwr a'r Cynhyrchydd Creadigol, bydd y tîm ehangach yn ymateb i'r dull hwn.
Dyddiadau ym mis Ebrill:
Wythnos yn dechrau 10fed (Llun - Gwener)
Wythnos yn dechrau 17eg (Llun - Gwener)
Llun 24ain Ymarfer Technegol
Maw 25ain Digwyddiad Rhannu
Cyflog:
Mae'r tâl yn seiliedig ar gyfraddau safonol y diwydiant o £550 yr wythnos a £150 y dydd
Bydd y gyflogaeth gyfan am 2 wythnos, 2 ddiwrnod ac un 1/2 diwrnod (ar-lein) gan wneud cyfanswm o: £1475.
----
DYLUNYDD
Rydym yn chwilio am ddylunydd sy'n dod i'r amlwg i weithio ar ymchwil a datblygu ar gyfer sioe un fenyw newydd am ddiwylliant deiet ac edrych ar ôl dy hun ac eraill. Gyda chefnogaeth Glan yr Afon a'i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae'r gwaith yn ddarn cyffrous lled-hunangofiannol sydd wedi'i ysgrifennu a'i berfformio gan Mackenzie Steed.
Caiff y Dylunydd y dasg o greu dyluniadau set rhagarweiniol a fydd yn datblygu’n llawnach os/pan ddaw’r ymchwil a datblygu hwn yn berfformiad llawn. Gallai yr hyn a wnânt fod yn frasluniau, blwch model, darluniau digidol/technegol neu rywbeth arall.
Rhinweddau rydyn ni'n chwilio amdanyn nhw mewn Dylunydd:
- Dod i'r amlwg, newydd raddio, dychwelyd i'r gwaith neu yn archwilio ymarfer newydd
- Agwedd gydweithredol
- Yn gallu dychmygu sawl ffordd o gyflawni nodau unigol
- Profiad ar brosiectau tebyg
- Cyd-greu yn gyfforddus ond hefyd yn rheoli ei (h)amser ei hun yn gweithio ar y prosiect y tu mewn/tu allan i'r ystafell ymarfer.
- Gwybod sut i weithio gydag Artist ar ei syniadau.
Gofynion:
- Uchelgais brwd i gamu i brosiect creadigol cyffrous sy’n esblygu
- Gallu i ddylunio a chynnig syniadau adeiladol
- Dealltwriaeth o sut i ddylunio sioe ar gyfer teithio
Proses:
Bydd galw ar y Dylunydd i weithio am bythefnos, gan weithio tuag at rannu syniadau. Gellir cyflwyno'r syniadau hyn mewn unrhyw ffordd, cyn belled â'u bod yn cyfathrebu'n glir syniadau'r Dylunydd ar gyfer y set.
Dyddiadau ym mis Ebrill:
Wythnos yn dechrau 10fed (Llun - Gwener)
Wythnos yn dechrau 17eg (Llun - Gwener)
Llun 24ain Ymarfer Technegol
Maw 25ain Digwyddiad Rhannu
Cyflog:
Mae'r tâl yn seiliedig ar gyfraddau safonol y diwydiant o £550 yr wythnos a £150 y dydd
Cyfanswm y gyflogaeth gyfan am 2 wythnos fydd: £1100.
