Mae Casnewydd Fyw, ymddiriedolaeth elusennol ddielw sy'n darparu gweithgareddau chwaraeon, hamdden a diwylliannol yng Nghasnewydd, yn falch o gyhoeddi bod canolfan lles a gweithgarwch corfforol interim wedi'i sicrhau cyn i Ganolfan Casnewydd gael ei chau ddiwedd mis Mawrth 2023. Mae hyn yn sicrhau y gall Casnewydd Fyw barhau i ysbrydoli pobl i fod yn hapusach ac iachach yng nghanol y ddinas, tra bod cyfleuster hamdden newydd sbon yn cael ei ddatblygu gan Gyngor Dinas Casnewydd.

Bydd y ganolfan lles a gweithgarwch corfforol interim gyferbyn â Gorsaf Reilffordd Casnewydd, drws nesaf i Admiral House yn y Cambrian Centre, Cambrian Road, a elwir hefyd yn Station Quarter. Dyma hen leoliad y Gym Group. Dim ond deg munud ar droed o Ganolfan Casnewydd, mae’n cynnig mynediad hawdd at lwybrau trên, bws, a beicio ac mae ganddi faes parcio preifat at ddefnydd aelodau.

Bydd y ganolfan yn agor ar 1 Ebrill 2023 i groesawu aelodau cyfredol a newydd i'r lleoliad cyffrous hwn. Bydd gan y ganolfan amrywiaeth eang o offer hyfforddi cardiofasgwlaidd a swyddogaethol newydd a chyfarwydd,  ynghyd ag ardal pwysau rhydd bwrpasol, ardal ymarfer corff grŵp ar gyfer dosbarthiadau dwysedd uchel ac isel a grŵp beicio dan do. Bydd rhywbeth at ddant pawb! 

Bydd tîm Casnewydd Fyw ar gael i groesawu aelodau i'r ardal gymdeithasol bwrpasol ac i arwain a chefnogi aelodau ar eu taith ffitrwydd. Bydd cefnogaeth bersonol wedi'i theilwra a sesiynau 1 i 1 hefyd yn parhau i aelodau.  

Bydd partneriaeth Casnewydd Fyw gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a’r rhaglen Atgyfeirio Ymarfer Corff Genedlaethol yn parhau yn y ganolfan dros dro ac yn lleoliadau eraill Casnewydd Fyw. Bydd hyn yn sicrhau darpariaeth barhaus o gymorth ac arweiniad i bobl â chyflyrau cronig i wella eu hiechyd a'u lles.

Bydd dosbarthiadau ymarfer corff grŵp Casnewydd Fyw ar gael yn y ganolfan interim a bydd rhai yn symud i leoliadau eraill Casnewydd Fyw, sy'n cynnwys Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd a Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon. Bydd Casnewydd Fyw yn cadarnhau gwybodaeth am y symud a’r amserlen cyn gynted â phosibl, a chyn i Ganolfan Casnewydd gau.  

Dywedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw, "Rydym yn gwybod y bydd gadael Canolfan Casnewydd yn anodd iawn i lawer o gwsmeriaid a'n cydweithwyr oherwydd yr atgofion sydd wedi’u gwneud yno. Mae gan Ganolfan Casnewydd hanes amrywiol a diddorol, o helpu i hybu lles pobl o bob oedran i fod yn lleoliad cerddoriaeth hynod boblogaidd, gan groesawu rhai o artistiaid mwyaf y byd, gan gynnwys Elton John, David Bowie ac Ed Sheeran. Mae Canolfan Casnewydd, ei darpariaeth ffitrwydd, ei digwyddiadau a'n cydweithwyr wedi helpu i ddenu pobl o bob rhan o'r ddinas, y DU a’r byd dros y 30 mlynedd diwethaf.

Rydym yn llawn cyffro i fod yn rhan o'r gwaith cynllunio ar gyfer lleoliad modern newydd ar lan yr afon, ac rydym yn falch o gael y cyfle i barhau i ddarparu ein gweithgareddau a'n gwasanaethau chwaraeon corfforol a lles hynod bwysig yn y ddinas unwaith y bydd Canolfan Casnewydd yn cau. Bydd y ganolfan lles a gweithgarwch corfforol interim yn treblu ein darpariaeth campfa o gymharu â gofod campfa Canolfan Casnewydd, gydag ystod eang o offer ffitrwydd newydd a fydd yn ein galluogi i gynnig mwy o gyfleoedd ffitrwydd i bobl leol a chefnogi lles corfforol a meddyliol ein cymunedau.

Bydd rhai gweithgareddau, gan gynnwys dosbarthiadau ymarfer corff grŵp, yn symud i'n gofod anhygoel yn Theatr Glan yr Afon neu i'n lleoliadau eraill sydd â’r holl gyfarpar angenrheidiol. Byddwn yn rhoi gwybod i’n cwsmeriaid am y newidiadau hyn cyn gynted ag y gallwn. Yn y pen draw, edrychwn ymlaen at groesawu ein haelodau presennol a newydd i'r ganolfan gyffrous hon yn y ddinas." 

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros les cymunedol: "Rwy'n falch iawn bod Casnewydd Fyw wedi sicrhau lleoliad arall yng nghanol y ddinas i ddarparu cyfleusterau ychwanegol nes y bydd y ganolfan hamdden newydd fodern yn agor.

Mae'n golygu y bydd Casnewydd Fyw yn gallu cynnig ystod eang o weithgareddau i aelodau presennol a newydd yn eu lleoliadau ar draws y ddinas tra'n parhau i gynnig cefnogaeth hanfodol i bobl â chyflyrau cronig.

Mae iechyd a lles ein holl drigolion yn hynod bwysig a dyna pam fod datblygu'r ganolfan hamdden newydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i gyngor y ddinas.

Mae gwaith i sicrhau bod yr adeilad newydd mor wyrdd, carbon niwtral a chynaliadwy â phosibl yn parhau y tu ôl i'r llenni.  Yn y cyfamser, bydd y gwaith o gau a dymchwel Canolfan Casnewydd yn digwydd i alluogi Coleg Gwent i fwrw ymlaen â'u cynlluniau ar gyfer campws modern ar gyfer yr 21ain ganrif ar y safle."

Mae cau Canolfan Casnewydd yn rhan o gynlluniau Cyngor Dinas Casnewydd i adeiladu canolfan hamdden, nofio a lles fodern, bwrpasol a charbon niwtral i gymryd lle Canolfan Casnewydd fel lleoliad allweddol ar lan yr afon.   Bydd hefyd yn trawsnewid safle presennol Canolfan Casnewydd yn gyfleuster addysg o’r safon uchaf ar gyfer Coleg Gwent.

I gael gwybodaeth am agor y ganolfan interim, gan gynnwys cwestiynau cyffredin, ewch i Cwestiynau Cyffredin | Cwestiynau Cyffredin Casnewydd Fyw neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol @NewportLiveUK    

Gall aelodau newydd sydd â diddordeb mewn ymuno â Casnewydd Fyw a defnyddio'r ganolfan lles a gweithgarwch corfforol interim weld pecynnau aelodaeth ac ymuno ar-lein yn www.newportlive.co.uk/aelodaeth-a-phrisio