World.jpg

 

Bydd Glan yr Afon yn cynnal Marchnad Gwneuthurwyr am ddim ddydd Sadwrn 25 Tachwedd, 12 - 4pm fel rhan o ddigwyddiad Art on the Hill.

Mae'r farchnad yn dod â chrefftwyr, gwneuthurwyr, artistiaid a busnesau annibynnol at ei gilydd i greu marchnad gymunedol wych, leol. Nod y farchnad yw cefnogi gwneuthurwyr a busnesau lleol drwy hyrwyddo eu gwaith, cynyddu ymwybyddiaeth a hybu eu cyrhaeddiad.

Mae croeso i unrhyw un fod yn rhan o'r digwyddiad, siopa'n lleol a chefnogi'r gymuned. Gyda dewis eang o stondinau, mae'r Farchnad Gwneuthurwyr yn ddiwrnod allan delfrydol - dewch am dro, sbwylio’ch hun neu ddod o hyd i'r anrhegion Nadolig perffaith i anwyliaid!

Bydd y Farchnad drwy gydol yr ardal cyntedd i lawr y grisiau yn Glan yr Afon.  

 

Galw ar stondinwyr

Rydym yn chwilio am stondinwyr i ymuno â ni yn y Farchnad Gwneuthurwyr eleni. Os hoffech gynnal stondin cwblhewch y Ddalen Wybodaeth Stondinwyr isod a'i dychwelyd trwy e-bost at sally-anne.evans@newportlive.co.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer stondinau yw dydd Sadwrn 18 Tachwedd.

TAFLEN WYBODAETH STONDINWYR