Y mis Ebrill hwn mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn falch iawn o fod yn cefnogi The Talking Shop©, canolfan wybodaeth ddiwylliannol a democrataidd sy'n dod i ganol dinas Casnewydd mewn partneriaeth ag Omidaze, Youth Cymru a Llywodraeth Cymru.
Mae The Talking Shop yn fan cyhoeddus sy'n archwilio'r croestoriad rhwng cyfranogiad diwylliannol a democrataidd, un sgwrs ar y tro. Yn agor yn Uned 9 Friars Walk, gofod celf a chymunedol aml-swyddogaethol Tin Shed Theatre Co., bydd The Talking Shop yn creu gofod ymgysylltu democrataidd a diwylliannol wyneb-yn-wyneb a ffenestr siop ar gyfer creadigrwydd a democratiaeth gyda'i gilydd.
Wedi’i leoli yn The Talking Shop© bydd The Democracy Box© sy'n cefnogi pobl ifanc i ddod o hyd i ffyrdd creadigol newydd o ddeall ein democratiaeth yn y DU a chymryd rhan ynddi.
Mae'r rhain yn rhoi cyfle i bobl ifanc ac artistiaid drafod a deall ein democratiaeth a'n gwleidyddiaeth yn y DU. Mae The Democracy Box© yn dod o hyd i ffyrdd creadigol newydd o gynyddu cyfranogiad democrataidd, gan gynnwys ymhlith pobl ifanc, a darparu gwybodaeth am system a strwythurau democrataidd y DU.
Mae The Democracy Box© yn gweithio'n bennaf gyda phobl ifanc 16-26 oed, wedi'u geni neu leoli yng Nghymru, fel cyd-grewyr cyflogedig, ac yn ceisio cynyddu cyfranogiad democrataidd a darparu gwybodaeth am system a strwythurau democrataidd y DU.
Dywedodd Yvonne Murphy o Omidaze (OhMyDays) Productions,
'Mae Omidaze yn falch iawn o fod wedi ffurfio partneriaeth â Glan yr Afon a Casnewydd Fyw ac Youth Cymru a derbyn un o’r grantiau trydydd sector gan Adran Democratiaeth Leol Llywodraeth Cymru i dreialu ffyrdd newydd ac arloesol o gynyddu cyfranogiad democrataidd a fydd yn cefnogi ailagor The Talking Shop yng Nghaerdydd ym mis Mawrth eleni.
‘Rydym yn gyffrous iawn fod yr ail Talking Shop ar gyfer y treial cyntaf am fod yng Nghasnewydd - a fydd hefyd yn agor ei drysau ym mis Ebrill cyn yr etholiadau lleol - a hoffem ddiolch o galon i Lan yr Afon, Youth Cymru a Llywodraeth Cymru am ein cefnogi a ffurfio partneriaeth gyda ni ar y gwaith hwn.'
Ychwanegodd Julia Griffiths, Cyd-Brif Swyddog Gweithredol Youth Cymru:
'Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Glan yr Afon a The Talking Shop© i gefnogi cofrestru pleidleiswyr yng Nghymru; rydym yn edrych ymlaen gyda gwerthfawrogiad at fod yn rhan o'r gwaith creadigol, arloesol ac angenrheidiol hwn i hyrwyddo democratiaeth a chyfranogiad diwylliannol yng Nghymru.'
Roedd Glan yr Afon yn falch iawn o dderbyn cais partneriaeth ar gyfer y prosiect hwn a pharhau i gefnogi pobl ifanc yn y gymuned. Mae gan Gasnewydd hanes angerddol dros ymgysylltu â'r broses ddemocrataidd ac mae’r ganolfan gelfyddydol yn credu, drwy gymryd rhan mewn gweithgarwch creadigol, y gall pobl ifanc wir ddod o hyd i'w llais.
Meddai Danielle Rowlands, Swyddog Datblygu Addysg a Chyfranogiad Celfyddydol Glan yr Afon:
"Mae hwn yn brosiect mor hanfodol i bobl ifanc gyfrannu ato ac ymgysylltu ag ef. Ein pobl ifanc yw'r dyfodol ac mae angen clywed eu lleisiau, ac eto nid yw llawer ohonynt yn cofrestru i bleidleisio. Gobeithiwn, drwy'r prosiect hwn, fod pobl ifanc yn cael mwy o ddealltwriaeth o'n system ddemocrataidd ac yn cael mwy o hyder i sefyll a phleidleisio dros yr hyn maen nhw’n credu ynddo.
Dywedodd Emily Mae Jones (18), cyd-grëwr ifanc The Democracy Box©:
"Ro’n i eisiau dysgu mwy am ddemocratiaeth a gwleidyddiaeth ond allwn i ddim dod o hyd i esboniad clir mewn ffordd ro’n i’n gallu ei deall nes i mi ymuno â'r prosiect hwn. Yn ogystal â datblygu fy ngwybodaeth fy hun, dwi’n cael y pleser pur o addysgu pobl eraill am Ddemocratiaeth y DU a thynnu sylw at y ffaith nad oes unrhyw gywilydd mewn peidio â gwybod - oherwydd do’n i ddim chwaith.
Mae fy agwedd wedi newid yn llwyr ar Ddemocratiaeth y DU. Dwi o’r diwedd yn teimlo'n hyderus yn dechrau sgyrsiau am ddemocratiaeth a hefyd yn cymryd rhan mewn trafodaethau.
Dechreuodd The Democracy Box© fel prosiect ymchwil a datblygu Clwstwr yn 2020-21 ac mae'r gwaith parhaus hwn wedi'i wneud yn bosibl drwy'r buddsoddiad cychwynnol hwn gan Clwstwr, sef rhaglen arloesi ar gyfer sector sgrin De Cymru, a ariennir gan y Rhaglen Clystyrau Diwydiannau Creadigol sy'n rhan o Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU.
Bydd The Talking Shop© yn agor yn Uned 9 Friars Walk, ym mis Ebrill. Anogir pobl ifanc i alw draw i'r gofod ac ymgysylltu â chreadigrwydd a democratiaeth. Dysgwch fwy am y prosiect yma: https://www.omidaze.co.uk/the-talking-shop/