Mae wedi digwydd i ni i gyd - mae bywyd yn brysur a chyn i chi wybod, rydych chi wedi anghofio rhoi blaenoriaeth i’ch trefniadau ymarfer corff.  Os yw'r gwaith yn mynd yn brysur, neu'r plant yn eich cadw ar flaenau eich traed yn ystod gwyliau'r haf, gall mynd yn ôl i drefn pethau godi ofn.  Ond peidiwch â phoeni, dydych chi ddim ar eich pen eich hun!  Dyw hi byth yn rhy hwyr i ailddechrau trefniadau ffitrwydd. Dyma ambell awgrym ymarferol i'ch helpu i ddychwelyd yn ddiffwdan at eich trefn ffitrwydd, waeth pa mor hir y bu’r egwyl! 

Dechreuwch yn Fach ac Adeiladu'n Raddol

Peidiwch â mynd ar eich pen i sesiwn gampfa ddwys ar unwaith. Y gyfrinach yw dechrau’n raddol a dod i’r arfer unwaith eto.  Gallech hyd yn oed ddechrau drwy alw baned yn un o'r canolfannau, i’ch helpu i ddod i arfer ag ymweld unwaith eto.   Cofiwch fod pob cam bach yn cyfrif, dechreuwch drwy neidio ar y felin redeg, efallai, am ryw 10 munud o gerdded, neu sesiwn nofio efallai.  Gallwch gynyddu dwysedd a hyd eich ymarferion yn raddol.  Mae cysondeb wir yn gwneud gwahaniaeth mawr, felly ewch ar eich cyflymder eich hun a dathlwch bob mymryn o gynnydd ar hyd y ffordd.

Gosodwch Dargedau Realistig

Gosodwch nodau realistig a chyraeddadwy i'ch hun i gadw'ch hun yn llawn cymhelliant.  Yn hytrach nag anelu at gorff perffaith mewn chwe wythnos, canolbwyntiwch ar fynychu'r gampfa dair gwaith yr wythnos, neu ddechrau dosbarth ffitrwydd newydd.  Bydd y nodau bach hyn yn eich cadw ar y trywydd iawn ac yn gwneud i chi deimlo eich bod yn cyflawni rhywbeth.  Cofiwch eich sbwylio’ch hun ychydig bach pan fyddwch chi'n cyflawni eich nodau, boed yn Frappe bach ar ôl eich ymarfer corff neu bâr newydd o esgidiau hyfforddi, rhowch rywbeth i chi'ch hun i edrych ymlaen ato. Os byddwch chi'n teimlo'n bod eich cynnydd yn araf, parhewch yn bositif a dathlwch mor bell rydych chi wedi dod. Atgoffwch eich hun am fanteision ymarfer corff rheolaidd - gwell hwyliau, gwell cwsg, mwy o egni.

Crëwch Amserlen Ymarfer Corff

Un o'r ffyrdd gorau o gadw at drefn ffitrwydd yw creu amserlen ymarfer corff, yn union fel y byddech gydag unrhyw apwyntiad pwysig arall. Dewiswch y dyddiau a'r amseroedd sy'n gweithio orau i chi.  Boed yn gynnar yn y bore, ar ôl gwaith neu yn ystod eich egwyl ginio.  Gwnewch hyn yn rhan ddigyfnewid o'ch diwrnod.

Bwrwch Olwg o’r Newydd ar eich Trefn Ymarfer Corff

Treuliwch ychydig amser yn cyflwyno ambell beth newydd i’ch trefn ymarfer corff. Efallai na fydd yr hyn oedd yn gweithio i chi o'r blaen mor apelgar ag y bu gynt.  Ystyriwch ychwanegu rhywbeth newydd, fel dosbarth Pilates newydd neu HIIT neu nofio i'ch trefn wythnosol. Gall newid yn y drefn ailgynnau eich diddordeb a gwneud i’r syniad o ailddechrau fod yn gyffrous.

Peidiwch â phoeni os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, mae ein hyfforddwyr yma i helpu.  Gallant gynnig cymorth un-wrth-un, creu cynllun ymarfer personol sy'n gweddu i'ch nodau a'ch anghenion a hyd yn oed roi gwiriad iechyd i chi i sicrhau eich bod ar y trywydd iawn.  Mae'n ymwneud â dod o hyd i'r hyn sy'n gweithio orau i chi, a gall cael y cymorth ychwanegol hwnnw sy’n gwneud gwahaniaeth mawr.

Paratoi eich Cit Campfa

Gall hyn wneud gwahaniaeth mawr i'ch lefelau cymhelliant.   Paratowch eich dillad ymarfer y noson gynt, neu cadwch cit campfa yn y swyddfa neu'r car. Gall y cam bach hwn helpu ar ddiwrnodau pan fydd cymhelliant yn isel.  Weithiau gall hyd yn oed brynu dillad campfa newydd roi hwb ychwanegol i chi i fynd yn ôl i drefn pethau.

Gwrandewch ar eich Corff

Wrth i chi ddychwelyd i'ch trefn arferol, mae'n bwysig eich bod chi'n gwrando ar eich corff.  Os ydych chi'n cael poen, neu'n teimlo'n rhy flinedig, cymerwch ef fel arwydd i arafu a gorffwys.  Gall gwthio'n rhy galed neu’n rhy gyflym arwain at anaf. Cofiwch, mae diwrnodau gorffwys yr un mor bwysig â diwrnodau ymarfer, felly byddwch yn garedig â chi'ch hun a symud ymlaen ar gyflymder sy'n teimlo'n iawn i chi. 

Dewch â Ffrind

Mae dychwelyd i drefn ffitrwydd wastad yn fwy o hwyl gyda ffrind wrth eich ochr. Gofynnwch i gyfaill ymarfer corff ymuno â chi, boed yn gydweithiwr, yn gymydog neu’n aelod o'r teulu. Neb i ymuno â chi? Dim ots!  Mae Casnewydd Fyw yn llawn wynebau cyfeillgar.   Rhowch gynnig ar un o'n dosbarthiadau, a thrwy ddod bob wythnos, byddwch yn credu ffrindiau’n gyflym ac yn dod i adnabod yr aelodau rheolaidd. Gall agwedd gymdeithasol ffitrwydd grŵp fod yn ysgogiad enfawr. 

Manteision Aelodaeth

Gwneud yn fawr o'ch aelodaeth. Mae amrywiaeth o fanteision yn rhan o’ch aelodaeth Casnewydd Fyw, gyda’r bwriad o'ch helpu i gyrraedd eich nodau. Mae’r manteision yn cynnwys gwiriad ffitrwydd iechyd i asesu eich lefelau ffitrwydd, rhaglen ymarfer wedi'i phersonoli a'i theilwra at eich anghenion chi, a sesiynau 1-wrth-1 gyda'n hyfforddwyr profiadol. Bydd hyn yn rhoi'r gefnogaeth a'r arweiniad sydd eu hangen arnoch i wneud cynnydd cyson ar eich llwybr i lwyddiant!

Yn barod i Ddychwelyd i Ffitrwydd?

Mae mynd yn ôl i drefn ffitrwydd ar ôl egwyl yn fater o un cam ar y tro. Trwy osod nodau cyraeddadwy bach a bod yn amyneddgar gyda chi'ch hun, byddwch yn ailadeiladu eich ffitrwydd yn raddol ac yn mwynhau'r holl fuddion sy'n dod yn ei sgil.  Cofiwch, mae pob cam yn cyfrif ac mae'r daith yr un mor bwysig â'r gyrchfan.