Two people dressed as giant pigeons  Two ladies dressed as bright colourful bugs.PNG

 

Ar ôl absenoldeb o ddwy flynedd, mae gŵyl theatr stryd i deuluoedd Casnewydd Fyw a Glan yr Afon - y Sblash Mawr - yn dychwelyd i strydoedd y ddinas yr haf hwn, ddydd Sadwrn 23 a Dydd Sul 24 Gorffennaf gyda rhaglen lawn dop yn dathlu hoff berfformwyr gwyliau'r gorffennol yn ogystal â rhai pethau annisgwyl newydd sbon, gyda’r rhestr yn tyfu o hyd.

Mae eleni'n addo bod yn llawn sêr gwych, ac yn ddigwyddiad prysur, gydag amrywiaeth eang o berfformwyr anhygoel.

Bydd y Sblash Mawr unwaith eto yn darparu rhywbeth i bawb gyda theatr stryd, comedi, bysgio, perfformiadau cymunedol, gweithdai a gweithgareddau celf a chrefft, i gyd wedi'u dewis yn arbennig i ddiddanu, rhyfeddu, difyrru a dod â phobl Casnewydd at ei gilydd, a gobeithio annog pobl i'r ardal hefyd!

Mae angen i bob un ohonom ddychwelyd at y teimlad hwnnw o gymuned a dathlu, ar ôl bwlch hir diolch i'r pandemig.  Eleni, mae'r ŵyl yn falch o fod yn cynnwys perfformwyr sy'n lleol i gymuned Casnewydd, gan roi cyfle i bobl leol (yn enwedig plant) arddangos eu doniau i'r ddinas! Un enghraifft o'r fath yw Academi Herio Disgyrchiant Casnewydd.  Wedi'i leoli yng Ngorllewin Parc Langland, yng Nghasnewydd.  Bydd plant mor ifanc â 3 oed, i fyny at blant yn eu harddegau, yn perfformio adloniant llawn hwyl sy'n addas i'r teulu mewn amrywiaeth o arddulliau o jazz i delynegol, i godi hwyl ac ymarferion tin-dros-ben!

Bydd G-Expressions yn dawnsio ar y strydoedd yn  Sblash Mawr 2022

Mae "Urban School of Art" yn dilyn taith grŵp o bobl ifanc sy'n mynychu ysgol gelfyddydau perfformio i ddilyn eu breuddwydion wrth oresgyn rhwystrau, a chewch weld rhai o'r cast yn perfformio golygfeydd, caneuon a dawns o'r sioe newydd hon.

Mae gennym hefyd ein Mentoriaid GX yn arddangos sut y maent wedi datblygu drwy'r sefydliad drwy ennill eu cymwysterau arweinwyr dawns lefel 1 a 2 ac addysgu yn eu cymunedau gydag arddangosiadau gan y bobl ifanc y maent wedi bod yn eu haddysgu. Mae hyn yn cynnwys Côr Sêr Sipsiwn, prosiect cerddoriaeth sy'n dathlu diwylliant Roma yng Nghasnewydd.

Mae Justin Teddy Cliffe yn artist lleol, sy'n perfformio dau ddarn yn yr ŵyl eleni.  Mae "Beth sy'n digwydd nesaf" yn gymysgedd hwyliog, anhrefnus o theatr, gweithdy a pharti! Ac mae "Pam fod môr-ladron yn cael eu galw’n fôr-ladron" yn ymwneud â llong a gollwyd yn afon Wysg!

Mae dau sboncyn y gwair sy’n dwlu ar y gampfa yn gwahodd cynulleidfaoedd i gymryd rhan mewn digwyddiadau gwirion yng Ngemau’r Pryfed Mawr sy'n addo bod yn adloniant gwych i'r teulu cyfan gyda'i gomedi llawn chwilod.

Nawr, ni fydd neb yn disgwyl gweld llyfrau'n amlwg iawn yn y Sblash Mawr, sy'n fwy enwog am berfformiadau llawn ynni na chorneli tawel i ddarllen ynddynt. Fodd bynnag, bydd Llyfrau! eleni yn addo cyfuno'r ddau, gan ei fod yn sioe acrobatig ynni uchel sy'n cynnwys....ie, llyfrau! Bydd hyn yn sicr o blesio’r llyfrbryfed a’r rhai sy'n chwilio am wefr yn ein plith, ac mae'n bendant yn un i'w wylio.

Ond, peidiwch ag anghofio edrych allan am Mr a Mrs Pigeon ar strydoedd y ddinas dros benwythnos y Sblash Mawr. Mae'n siŵr bod trigolion Casnewydd yn gyfarwydd â gweld colomennod yn rhesi ar strydoedd canol y ddinas, ac mae'r pypedau enfawr hyn yr un ffunud â’r trigolion dinesig adnabyddus!

Yn dragwyddol chwilfrydig, mae Mr a Mrs Pigeon yn ymchwilio i bopeth maen nhw'n dod ar ei draws drwy bigo a chrafu, ac maent yn mynegi eu cariad at ei gilydd mewn ffordd golomennaidd go iawn, gyda llawer o gerdded balch a rhwbio plu. Yn ffefrynnau pendant gyda phlant (pa blentyn nad yw wrth ei fodd yn cwrso colomennod beth bynnag?!), bydd oedolion yn ei chael hi’n anodd peidio â chael eu diddanu'n llwyr hefyd, yn enwedig os ydynt yn gadael ....rhodd!

Nid dyma’r oll er hynny - blas yw unig sydd yma o‘r hyn sydd i ddod, a bydd rhagor yn ymddangos ar draws y ddinas mewn amrywiaeth o barthau dros y penwythnos gan gynnwys Glan yr Afon ei hun, ar hyd rhodfa'r afon i adeilad Prifysgol De Cymru, yn Sgwâr John Frost, yn Usk Plaza ac ar hyd Commercial Street.

Mae Sblash Mawr 2022 wedi'i hwyluso trwy gyllid, nawdd a chefnogaeth hael Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd, Ardal gwella Busnes Newport Now, Friars Walk, Le Pub, Prifysgol De Cymru, Articulture, Loyal Free, Bws Casnewydd, Sefydliad Alacrity, Cartrefi Dinas Casnewydd, Celfydyddau a Busnes Cymru, Pobl, Cartrefi Melin a Linc.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am bopeth sydd wedi'i gynllunio ar gyfer Sblash Mawr 2022 gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar y cyfryngau cymdeithasol, facebook.com/bigsplashnewport a Twitter @BigSplashFest, ac ymweld â newportlive.co.uk/BigSplash.

​​​​​