Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon gyda chefnogaeth Cyngor Dinas Casnewydd yn falch o gyhoeddi cyfres o gyfleoedd creadigol i artistiaid ymgysylltu â'n cymuned, gan gynnwys arddangosfeydd a gweithdai mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol. Rydym yn gwahodd artistiaid sydd â diddordeb mawr yn nathliadau Blwyddyn Newydd y Lleuad a Diwrnod Rhyngwladol y Menywod i wneud cais.

Cyfleoedd i artistiaid

Gweithdai Blwyddyn Newydd y Lleuad a Pharatoadau'r Parêd

I ddathlu Blwyddyn Newydd y Lleuad ar 1 Chwefror, 2025, rydym yn chwilio am artistiaid i arwain gweithdai mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol, fydd yn canolbwyntio ar greu gwaith celf—gan gynnwys llusernau coch traddodiadol—er mwyn cynnal gorymdaith yng nghanol Dinas Casnewydd.

Dylai artistiaid fod â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc a grwpiau cymunedol a gallu cynllunio gweithdai sy'n annog mynegiant creadigol a dathlu traddodiadau Blwyddyn Newydd y Lleuad. Cynhelir gweithdai ym mis Ionawr (gyda rhywfaint o gyfle i baratoi ym mis Rhagfyr), gan arwain at yr orymdaith ar 1 Chwefror yng nghanol y ddinas.

Bydd y ffi am hyn yn unol â chyfraddau tâl dyddiol a argymhellir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Rhaid i artistiaid fod ar gael ar gyfer Ionawr 2025, gan gynnwys rhywfaint o waith penwythnos.

Arddangosfeydd yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon

Rydym hefyd yn cynnig dau gyfle arddangosfa yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon i arddangos gweithiau drwy gydol dathliadau Blwyddyn Newydd y Lleuad. Rydym yn annog cynigion sydd ar themâu Blwyddyn Newydd y Lleuad o adnewyddu, undod a gobaith, yn ogystal â dehongliadau wedi'u hysbrydoli gan ddarnau o'r Casgliad Celf Gyfoes Cenedlaethol.

Bydd yr arddangosfeydd yn agor ddiwedd mis Ionawr ac yn cael ei chynnal drwy gydol mis Chwefror. (dyddiadau i’w cadarnhau)

Y comisiwn ar gyfer y ddwy arddangosfa yw £2,000 ac mae'n cynnwys rhywfaint o ymgysylltu â’r gymuned/ysgolion.

Cyfle Arddangosfa Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Mae Glan yr Afon yn cynnig cyfle i artist neu gydweithfa arddangos ym mis Mawrth 2025 ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Rydym yn chwilio am weithiau sy'n dathlu cryfder, amrywiaeth a chreadigrwydd menywod, gan dynnu ar themâu sy'n atseinio gyda delwedd neu gyfres o'r Casgliad Celf Gyfoes Cenedlaethol. Gwahoddir artistiaid i archwilio agweddau ar brofiadau a hunaniaethau menywod.

Manylion Gwneud Cais

Gall artistiaid sydd â diddordeb wneud cais am un neu fwy o'r cyfleoedd hyn.

Dylech gynnwys cynnig byr (dim mwy na 2 ochr dalen A4), neu fideo byr, eich CV, ac enghreifftiau o'ch gwaith.

Dylech gynnwys - Sut rydych chi'n bwriadu ymgysylltu â'r casgliad cenedlaethol a syniadau o sut rydych chi'n disgwyl gweithio o fewn cyd-destun cymunedol. Eich manylion cyswllt Cysylltwch â sally-anne.evans@newportlive.co.uk os hoffech drafod.

Anfonwch eich ceisiadau cyn 12pm ar 13 Rhagfyr 2024 i sally-anne.evans@newportlive.co.uk 

Gall ffeiliau mwy gael eu trosglwyddo trwy ddefnyddio WeTransfer neu eu rhannu trwy YouTube neu Vimeo.

Sicrhewch fod dolenni perthnasol yn ein cyrraedd erbyn yr un amser a dyddiad ar y cyfeiriad e-bost uchod. Bydd cynigion yn cael eu hystyried a bydd artistiaid ar y rhestr fer yn cael eu hysbysu erbyn 16 Rhagfyr 2024.

Y Cefndir: Galwad Agored CELF: Comisiwn Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru

Rydym yn chwilio am artistiaid i ddechrau archwilio'r hyn y gallai CELF ei olygu iddyn nhw a'u cymunedau. Mae CELF yn bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin, Oriel Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Oriel Davies yn y Drenewydd, Storiel ym Mangor, Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog, Canolfan Grefft Rhuthun, Mostyn yn Llandudno, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd ac Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe.

Mae'r casgliadau cenedlaethol, y mae Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gofalu amdanynt, yn ganolog i'r model. Bydd gwaith celf cyfoes o'r casgliadau yn cael eu blaenoriaethu i'w benthyg i leoliadau partner, i'w cynnwys mewn rhaglenni arddangos ac allgymorth. Law yn llaw â hyn yw'r nod o ddatblygu cyfleoedd comisiynu, ymgysylltu ac arddangos sy'n defnyddio ac yn cefnogi artistiaid cyfoes Cymru. Fel menter genedlaethol, nod oriel celf gyfoes genedlaethol Cymru yw eirioli dros arfer creadigol cyfoes a thyfu cynulleidfaoedd a rhyngweithio, yn lleol ac yn rhyngwladol. Mae'r model gwasgaredig hwn yn ddull uchelgeisiol sy'n ceisio ymateb i fuddiannau cymunedau. Wrth gael ei wireddu drwy bartneriaeth, mae potensial mawr i ddatblygu cefnogaeth gydlynol a hyrwyddo celf gyfoes yng Nghymru ac am Gymru. Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru. Brîff artistiaid: Rydym yn chwilio am bobl greadigol a gwneuthurwyr, sy’n weithio naill ai'n unigol neu ar y cyd, i archwilio beth allai CELF: oriel celf gyfoes genedlaethol Cymru fod ar eu cyfer nhw a'u cymuned leol. Mae'n hyblyg o ran sut y cysylltir â hyn a thrwy ba gyfrwng er bod rhai cyfyngiadau yn cael eu hamlinellu isod. Gofynnwn i'ch cynnig gael ei ysgogi naill ai gan waith celf neu artist a gynrychiolir yn y casgliad cenedlaethol. Gallai hyn fod yn artist neu waith celf sydd o ddiddordeb penodol i'ch ymarfer, er enghraifft, neu'n berthnasol i'ch cymuned, eich tirwedd neu eich treftadaeth ddiwylliannol. Efallai eich bod eisoes yn gyfarwydd â gweithiau celf cyfoes yn y casgliad cenedlaethol.

Fel arall, gallwch archwilio'r casgliad drwy Celf ar y Cyd, adnodd ar-lein newydd sy'n cael ei ddatblygu a'i boblogi fel rhan o oriel gelf gyfoes genedlaethol Cymru.

www.celfarycyd.wales