Chwaraeon Cymunedol
Mae’r Tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol, ynghyd â'u partneriaid, yn creu ac yn darparu gweithgareddau llawn gwybodaeth, lleol, hygyrch a fforddiadwy i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc.
Mae'r sesiynau'n cynnwys gweithgareddau fel pêl-droed, pêl-fasged, dodgeball, tenis bwrdd, badminton, a dawnsio stryd; ac maent mewn lleoliadau megis cyfleusterau hamdden, parciau, canolfannau cymunedol, clybiau ieuenctid, ac yn yr awyr agored mewn parciau, neu ardaloedd gemau amlddefnydd (MUGAs).
Mae gweithgareddau, rhaglenni a digwyddiadau cyfredol yn cynnwys;
Dyfodol Cadarnhaol – ymgysylltu â'r gymuned gyda'r nos a gweithgareddau ieuenctid mewn lleoliadau amrywiol – cysylltwch â'r tîm isod am fanylion
Rhaglenni Chwaraeon a Lles Ysgolion Uwchradd – Mae gweithgareddau mewn ysgolion yn amrywio bob tymor ac fe'u hysbysebir yn uniongyrchol mewn ysgolion uwchradd ar gyfryngau cymdeithasol ac ar hysbysfyrddau sy'n gysylltiedig ag addysg gorfforoll neu ddarpariaeth ar ôl ysgol, neu raglenni Cenhadon Ifanc ar gyfer gwirfoddoli. Mae Cydlynydd Chwaraeon wedi'i leoli ym mhob ysgol uwchradd a bydd manylion y ddarpariaeth yn cael eu gwneud yn ymwybodol i bob disgybl yn yr ysgol bob tymor.
Rhaglenni Chwaraeon a Lles Ysgolion Cynradd – Mae gweithgareddau mewn ysgolion yn amrywio bob tymor ac fe'u hysbysebir yn uniongyrchol yn yr ysgol, ar y cyfryngau cymdeithasol neu drwy ganiatâd a llythyrau i grwpiau blwyddyn, dosbarthiadau neu blant sy'n cymryd rhan.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o un o'n gweithgareddau, ein rhaglenni neu'n digwyddiadau neu e-bostiwch sportsdevelopment@newportlive.co.uk