Darganfyddwch Bêl Picl - Eich Hoff Gamp Newydd!

Chwilio am ffordd hwyliog o gadw'n heini? Rhowch gynnig ar bêl picl! Mae'r gamp ddeinamig hon yn gyfuniad o dennis, badminton, a ping-pong. Mae’n cael ei chwarae ar gwrt maint badminton gyda rhwydi tennis wedi'u haddasu, padlfyrddau a phêl blastig, mae'n hawdd i’w dysgu ac yn gamp llai heriol.

Mae ein sesiynau dan arweiniad hyfforddwyr yn berffaith ar gyfer pob oedran, cefndir a gallu, yn canolbwyntio ar dechneg, strategaethau gêm, a ffitrwydd cyffredinol mewn amgylchedd cefnogol.

Pam dewis pêl picl?

  • Camp llai heriol, sy'n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n dymuno cadw'n heini heb roi gormod o straen ar eu cymalau.

  • Cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau wrth chwarae’r gêm bleserus hon.

  • Gwella eich cydsymudiad llaw a llygaid, ystwythder, a chydbwysedd trwy chwarae rheolaidd.

Pryd?

Cynhelir Sesiynau Pêl Picl yng Nghanolfan Tennis Casnewydd:

Plant: Dydd Iau rhwng 6 a 7pm, £5 y person
Oedolion: Dydd Iau rhwng 7 ac 8pm, £6 y person

Archebwch Nawr

Darganfyddwch heddiw pam mai pêl picl yw un o'r chwaraeon sy'n tyfu gyflymaf yn y byd. Os ydych eisiau dysgu, gwella, neu gael hwyl yn unig, mae ein sesiynau dan arweiniad hyfforddwyr yn berffaith i chi!