Rydym yn annog busnesau lleol i gefnogi eu gweithwyr sy’n dymuno cymudo i'r gwaith yn llesol. Gallwn gynnig cyngor ymarferol ar gyfleusterau, gweithdai am ddim i gynyddu hyder wrth feicio, yn ogystal â sesiynau sgiliau cynnal a chadw beiciau.
Gall cyfranogwyr hefyd elwa ar gynllun treialu aelodaeth ffitrwydd gan Casnewydd Fyw i helpu i'w cadw mewn cyflwr ardderchog ar gyfer cymudo ar feic.
Enwebwch eich cyflogwr a helpwch eich cydweithwyr i elwa ar weithdai beicio, sgiliau beicio a sesiynau hyder am ddim Casnewydd Fyw. Y cyfan sydd ei angen arnom yw enw eich cyflogwr a manylion y person gorau i siarad ag ef/hi (byddai Adnoddau Dynol neu'ch Pencampwr Lles Gweithwyr / Teithio Llesol yn ddelfrydol) yna bydd y Tîm Momentwm yn cysylltu.
Edrychwch ar ein Canllaw Ymgysylltu â Chyflogwyr
Llenwch y ffurflen isod heddiw a byddwn yn cadw mewn cysylltiad am y cyfleoedd sydd ar gael i chi a'ch cyflogwr drwy e-bost.
Ymuno Â'n Cylchlythyr
Cewch y newyddion diweddaraf a diweddariadau ynghylch Momentwm, gan gynnwys sesiynau, digwyddiadau a chymorth i fusnesau sydd am fod yn gyflogwr sy’n hyrwyddo beicio.
Cofrestru Nawr