Dathlwch ddiwrnod arbennig eich plentyn gyda Casnewydd Fyw!
Rydym yn cynnig amrywiaeth wych o bartïon i blant hyd at 7 oed gan gynnwys partïon pwll, felly beth am wneud rhywbeth ychydig yn wahanol a mwynhau parti pen-blwydd llawn hwyl gyda Casnewydd Fyw.
Dim ond unwaith y flwyddyn y daw penblwyddi, felly beth am sicrhau ei fod yn ddiwrnod i'w gofio!

Partïon Pwll Nofio
I lawer o blant, does dim byd yn maeddu parti sy'n gwneud sblash!
Mwynhewch awr o hwyl a sbri yn y pwll gyda'n teganau pwll sy'n cynnwys peli, offer arnofio a nwdls i gyd o dan lygad barcud ein hachubwyr bywyd cymwys.
Byddwch yn gallu defnyddio ein Hystafell Parti ar gyfer ail awr eich parti.

Parti Chwaraeon
Dim ond unwaith y flwyddyn mae penblwyddi’n codi, felly gadewch i ni ‘neud e’n ddiwrnod i’w gofio!
Logwch neuadd chwaraeon i fwynhau 1 awr o chwaraeon, yn ddelfrydol ar gyfer cynnal parti pêl-droed, pêl-fasged neu rygbi ar gyfer plentyn sy’n dwlu ar chwaraeon. Bydd yr holl offer gan gynnwys bibiau a pheli yn cael eu darparu.
Am ail awr eich parti, bydd gennych ddefnydd o'n Hystafell Parti i weini bwyd a lluniaeth i’ch gwesteion.
GWEITHGAREDDAU PLANT
Mae Casnewydd Fyw yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau hwyl ar gyfer plant o bob oedran gan gynnwys sesiynau Active Tots wythnosol a sesiynau beicio i blant ar y penwythnos ac amrywiaeth eang o chwaraeon a gweithgareddau celf yn ystod gwyliau’r ysgol.
Mwy o Wybodaeth