Nofio i Deuluoedd
Mae ein sesiwn nofio hwyliog i'r teulu yn berffaith ar gyfer teuluoedd â phlant iau sy'n awyddus i fwynhau'r pwll, ymarfer nofio a chael hwyl mewn amgylchedd cyfeillgar a diogel. Mae ein sesiynau yn ystod yr wythnos yn berffaith i blant bach a phlant cyn ysgol!
Caiff teuluoedd (hyd at 5 o bobl) chwarter o’r Pwll Addysgu yn y Ganolfan Tenis a Nofio Ranbarthol iddyn nhw eu hunain am 1 awr.
Gellir archebu sesiynau nofio i deuluoedd wythnos ymlaen llaw ac nid ydynt yn addas i bartïon.
Edrychwch am Nofio i Deuluoedd ar ein tudalen Beth Sydd Ymalen i weld pa sesiynau sydd ar gael.
Mae’r sesiynau’n costio £4.35 i oedolion, £2.60 i bobl hŷn, £2.20 i blant, AM DDIM i blant bach dan 4 oed
Mae canllawiau goruchwylio plant yn berthnasol i bob sesiwn nofio i'r teulu.
Bydd pob teulu sy’n dod i sesiwn yn cael ystafell newid ar ôl iddynt nofio.
Tenis i'r Rhai Bach
Mae tenis tots yn ffordd hwyliog o gyflwyno plant i raced denis a hanfodion y gamp gan ddefnyddio gweithgareddau, ymarferion a gemau hwyliog.
Mae sesiynau wedi'u hanelu at ddatblygu ystwythder, cydbwysedd a chydlyniant, gan ganolbwyntio ar fwynhad.
Caiff chwaraewyr gyfle i gwrdd â phlant eraill ac annog rhyngweithio cymdeithasol.
Bydd rhieni/gwarchodwyr yn cael eu hannog i ddod ar y cwrt i helpu eu plant gydol y sesiynau, felly gwisgwch esgidiau ymarfer os gwelwch yn dda. Mae'n ffordd wych i chi fod yn actif gyda'ch gilydd!
£4 y plentyn*
Ffoniwch 01633 656757 neu ewch i’r dderbyn fa i sicrhau lle.
*Offer wedi'i ddarparu. Rhaid i oedolion fod yn bresennol yn ystod sesiwn.
Gweithgareddau sy’n addas i fabis yng Glan yr Afon
Mae gennym ni weithgareddau a pherfformiadau sy’n addas i hyd yn oed aelodau ieuengaf y teulu yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon. Mae gennym ddangosiadau ffilm addas i fabis yn y sinema, For Crying Out Loud, a chlwb comedi yn ystod y dydd, Aftermirth sy’n cynnwys comediwyr enwog sy’n malio dim os oes rhai bychain yn llefain neu’n gwingo.
Mae ein gweithdy hefyd yn cynnwys Hubble Music & Movement, gweithdy cyn oedran ysgol sy’n hwyl ac yn fywiog i bob oedran a gallu o fabis tua 6 wythnos i blant 5 oed.
Partïon
Dathlwch ddiwrnod arbennig eich plentyn gyda Casnewydd Fyw!
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth wych o bartïon i blant o bob oed, o bartïon chwarae meddal i blant bach i bartïon pwll nofio, felly beth am wneud rhywbeth ychydig yn wahanol a mwynhau parti pen-blwydd llawn hwyl gyda Casnewydd Fyw.
Dim ond unwaith y flwyddyn y daw penblwyddi, felly beth am sicrhau ei fod yn ddiwrnod i'w gofio!