Nod Good Boost yw gwella bywydau pobl drwy eu cael i symud drwy gyfrwng ymarfer ysgafn yn y dŵr ar y tir mewn amgylchedd hwyliog a chymdeithasol. Fel hyn, bydd gofalu am eich iechyd yn dod yn rhywbeth pleserus, yn hytrach na’n frwydr.
Mae ein sesiynau adsefydlu yn y dŵr wedi'u teilwra'n unigol gan ddefnyddio App Good Boost, a ddyluniwyd gan arbenigwyr cyhyrysgerbydol, ac fe'u cyflwynir ar gyfrifiaduron llechi wrth-ddŵr sy'n hawdd eu defnyddio, gan ganiatáu i gyfranogwyr symud drwy eu hymarferion ar eu cyflymder eu hunain.
Mae'r sesiynau'n para awr ac yn cynnwys 10 munud o gynhesu, ac yna ymarferion unigol 3-4 munud, gyda gweithgareddau grŵp hwyliog rhyngddyn nhw i helpu i gynnal tymheredd cyfforddus i'r corff.
Byddwch yn cael eich llechen gwrth-ddŵr eich hun yn ystod y sesiwn fydd yn dangos eich ymarferion personol gyda diagramau clir, ac mae’n hawdd ei defnyddio.
Bydd aelod o staff wrth law drwy'r sesiwn i'ch cefnogi a'ch arwain.
Mae sesiynau Good Boost yn addas ar gyfer pobl ag ystod eang o gyflyrau iechyd, gan gynnwys:
• Cyflyrau Cyhyrysgerbydol
• Osteoarthritis
• Cyn ac ar ôl llawdriniaeth rhoi clun neu ben-glin newydd
• Poen clun a phen-glin
• arthritis gwynegol
Nod y sesiynau yw lleihau poen, gwella cryfder, symudedd a swyddogaeth yn ogystal â chynnig cyfle i bobl gymdeithasu a bod yn actif yn fwy rheolaidd.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cwblhau sesiwn asesu gydag un o'n tîm cyn archebu'r sesiwn hon. Gellir archebu drwy anfon e-bost at goodboost@newportlive.co.uk neu ffonio 01633 656757.
GWENT YN SYMUD YN WELL
Edrychwch ar ôl eich hun,teimlwch yn well a symudwch yn well.
I gael rhagor o wybodaeth am reoli Cyflwr sy’n effeithio ar y cyhyrau a’r esgyrn, ewch i Gwent yn Symud yn Well am lu o adnoddau a gwybodaeth am ddim:
-
Gwasanaethau oedolion: Gwent yn Symud yn Well (gig.cymru)
-
Gwasanaethau plant: Plant – Gwent yn Symud yn Well (gig.cymru)
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi datblygu'r wefan hon i helpu cymuned BIPAB i ofalu am eu hesgyrn, eu cymalau a'u cyhyrau.