Mae Olwynion i Bawb yn fenter a gydnabyddir yn genedlaethol sy'n annog pob plentyn ac oedolyn ag anableddau ac anghenion amrywiol i gymryd rhan yn y byd beicio. Gan ddefnyddio beiciau wedi'u haddasu'n arbennig, mae'r gweithgareddau'n hwyl i bawb sy’n cymryd rhan.
Caiff y sesiynau eu cyflwyno gan ein harweinwyr hyfforddedig Olwynion i Bawb, sydd â'r wybodaeth a'r profiad i chi, eich ffrindiau, a'ch teulu fwynhau buddion y beiciau wedi'u haddasu.
Bydd cymorth Olwynion i Bawb yn cael ei roi ond anogir rhieni, staff a gofalwyr i gymryd rhan yn y sesiynau achos na allwn gynnig cymorth 1 i 1.
Bydd sesiynau'n cael eu cynnal ar Ddydd Mercher a Dydd Sadwrn ym Mharc Tredegar, rhwng 10am a 3pm.*
Beiciau
Mae amrywiaeth eang o feiciau ar gael i'w defnyddio yn ystod y sesiynau gan gynnwys cludwr cadair olwyn, beiciau llaw sengl a dwbl, beiciau gorwedd tair olwyn, tandem Roam, beiciau tair olwyn i oedolion a phlant, beiciau tandem â gyriant cefn a beiciau hybrid.
Parc Tredegar a Llwybr Olwynion i Bawb
Mae'r llwybr yn gylch o amgylch Parc Tredegar ar arwyneb tarmac gwastad. Mae’n cael ei nodi gan arwyddion llwybr clir o amgylch y parc.
Ceir rhagor o fanylion am Barc Tredegar a sut mae cyrraedd yno ar wefan Cyngor Dinas Casnewydd yma.
Mae’r maes parcio'n gweithredu system talu ac arddangos. Rhaid i bob cwsmer dalu am barcio. Mae'r prisiau fel a ganlyn:
-
Hyd at 2 awr = £1.00
-
Hyd at 5 awr = £3.00
-
Mwy na 4 awr = £5.00
Pe bai ei angen mewn argyfwng, mae diffibriliwr ar gael ym Mharc Tredegar. Os oes angen mynediad iddo, mae angen i ddefnyddwyr ddilyn y cyfarwyddiadau sydd ar gabinet y diffibriliwr.
Llogi Beiciau
Mae sesiwn llogi beic yn para awr ac mae AM DDIM i drigolion Casnewydd. Mae'n cynnwys potel ddŵr am ddim fel rhodd yn ystod y sesiwn sefydlu gyntaf.
Y gost am logi beiciau ar gyfer y rhai nad ydynt yn byw yng Nghasnewydd yw £5.40 y person yr awr.
Dewch â'ch helmed eich hun i'r sesiwn oni bai ei fod wedi'i eithrio rhag gwisgo helmed am resymau meddygol neu resymau eraill. Mae gennym nifer cyfyngedig o helmedau ar gael i'w benthyg, byddant yn cael eu glanhau a'u cwarantin rhwng defnyddwyr.dwyr.