Beicio Grŵp Dan Do casnewydd fyw
Mae Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yn cynnwys Stiwdio Beicio Grŵp Dan Do (BGDD) fodern, ac mae ganddi 40 o feiciau Tomahawk IC7 arobryn.
Mae’n cynnwys consolau ar y llyw, a gall beicwyr gael adborth yn seiliedig ar eu perfformiad, sy’n helpu i deimlo'n rymusol a chaniatáu i'n hyfforddwr ffitrwydd ddarparu profiad dosbarth mwy cywir ac wedi'i deilwra.
App ICG
Cofiwch lawrlwytho'r app ICG Training cyn eich sesiwn!
Parwch eich dyfais gydag unrhyw un o'n Beiciau Dan Do i weld, cadw ac olrhain cofnod o’ch ymarfer corff wrth i chi bedlo eich ffordd i’r uchelfannau.
Gyda'r app ICG®, lliw yw eich hyfforddwr. Mae’n reddfol ac yn hawdd, dim ond paru cyfrifiadur eich beic â lliw a data eich ymarfer corff a ddangosir ar yr app ICG® sydd angen i chi ei wneud i fod yn y parth hyfforddiant cywir - 5 parth lliw i’ch cael chi'n fwy heini, yn gyflymach.