Mae Ymddiriedolaethau Elusennol o bob lliw a llun yn bodoli. Ond mae dau beth yn gyffredin gan bob un. Gwneud daioni a gwneud pethau’n well. Nid ydym ni’n wahanol. Rydym ni’n helpu i wneud eich cymuned yn well, oherwydd fel sefydliad elusennol, rydym wedi’n sefydlu i wneud daioni.
Mae pob ceiniog yn mynd yn ôl i mewn i gyfleusterau lleol ac i greu rhaglenni newydd sydd eu heisiau a’u hangen ar gymunedau.
Mae’r dull croes-gymhorthdal hwn yn gwahaniaethu rhwng model yr Ymddiriedolaeth Elusennol a gwasanaethau hamdden cyhoeddus eraill, oherwydd mae gweithgareddau sy’n cynhyrchu elw yn rhoi cymhorthdal i weithgareddau nad ydynt yn cynhyrchu elw, fel iechyd, llyfrgelloedd a rhaglenni allgymorth.
Mae 100 A MWY o Ymddiriedolaethau Elusennol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, a gyda throsiant cyfun o £2 biliwn* y flwyddyn - mae llawer o arian yn mynd yn ôl i’r economi leol.
Mae’r model hwn hefyd yn galluogi incwm gan ddefnyddwyr a all fforddio talu i gael ei glustnodi i roi cymhorthdal ar gyfer mynediad i weithgareddau. Nid oes gennym gyfranddalwyr ac NID ydym yn fusnes preifat. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r cyngor lleol, rydym yn gwrando ar gymunedau, rydym yn dryloyw.
Mae pob Ymddiriedolaeth Elusennol yn darparu rhaglenni rhywfaint yn wahanol, sy’n adlewyrchu’r angen yn y gymuned.
Mae pob un o’r 100 a mwy o Ymddiriedolaethau ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban yn rhannu angerdd dros wella lles cymdeithasol, meddyliol a chorfforol ac mae’r gwahaniaeth rydym ni’n ei wneud gyda’n gilydd yn rhyfeddol.
Mae gwella iechyd a lles pobl yn golygu lleihau cost triniaeth a gofal yn hwyrach mewn bywyd. Gall helpu i leihau troseddau a gwella canlyniadau addysgol, yn ogystal â chynyddu hapusrwydd personol.
Mae gwerth cymdeithasol o £1.5 BILIWN i hynny.Ac nid dim ond cynghorau rydym ni’n ffurfio partneriaeth â nhw. Mae gweithio mewn partneriaeth yn rhan annatod o Ymddiriedolaethau Elusennol. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid iechyd, partneriaid gofal cymdeithasol a sefydliadau eraill o’r trydydd sector ac elusennau.
Er mwyn sicrhau bod gan gymunedau lais yn yr hyn rydym ni’n ei wneud, mae ein bwrdd yn cynnwys aelodau o’r gymuned leol.
Mae Casnewydd Fyw yn gwmni cyfyngedig drwy warant, sy’n gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, Rhif Cwmni 9323582, ac yn elusen gofrestredig; Rhif Elusen 1162220.
Rydym hefyd yn aelod o Hamdden Cymunedol a dim ond sefydliadau sy’n cydymffurfio ag egwyddorion da gweithredu a llywodraethu sy’n cyflawni’r achrediad hwn.
I gael rhagor o wybodaeth am Ymddiriedolaethau Elusennol, ewch i https://communityleisureuk.org/the-trust-model