Adroddiad y Bwlch Cyflog Rhwng y Ddau Ryw
Mae Casnewydd Fyw wedi cynnal Adroddiad Tâl y Ddau Ryw dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gwybodaeth am y Bwlch Rhwng Cyflog y Ddau Ryw) 2017.
Mae deddfwriaeth adrodd am dâl y ddau ryw yn gofyn i gyflogeion â 250 a rhagor o gyflogeion gyhoeddi cyfrifon statudol bob blwyddyn yn dangos pa mor eang yw’r bwlch rhwng cyflogau eu cyflogeion gwrywaidd a benywaidd. Mae hyn yn cynnwys gwneud chwe chyfrifiad sy’n dangos y gwahaniaeth rhwng enillion cyfartalog merched a dynion yn ein sefydliad.
Rydym yn defnyddio’r canlyniadau hyn i asesu’r canlynol:
- lefelau Cydraddoldeb Rhywiol yn ein gweithle
- cydbwysedd cyflogeion gwrywaidd a benywaidd ar wahanol lefelau
- pa mor effeithiol y defnyddir ac y gwobrwyir talent.
Yr her yn ein sefydliad a thrwy Brydain yw cael gwared ar unrhyw fwlch rhwng cyflogau’r ddau ryw.